04/09/2012

Gwneud Meatballs o Bethau

Dwi'n cal job yn Ikea.

Mae'r cyfweliad yn rhoi prawf i ni:

1) ydw i'n licio Meatballs? (yndw)
2) Rho gylch o amgylch y gadair (OK)



Roedd o'n gyfweliad agos - ond ro'n i'n lwcus fod y ddau arall yn digwydd bod yn lysieuwyr.

*****

Mae fel cyrraedd Ffatri Siocled Charlie, petai Charlie yn gwneud pensiliau yn hytrach na siocled. Does na ddim llawer o siocled yma i ddweud y gwir, dim ond Dime Bars, ond mae rheiny yn costio 96c.

Mae'r siop yn llawn pensiliau. Rhai bach miniog. Rhai miniog bach. Rhai miniog. Rhai bach. Dwi yn dysgu oddi-wrth taid, a arferai lenwi ei sannau a chrystion, a dwi'n llenwi fy sannau gyda pensiliau. Mae fy migyrnau yn edrych fel dau ddraenog. Dwi'n teimlo'n euog, ond yn cerdded yn goc i gyd, achos mae'r pensiliau yma am ddim, ac os felly, "MR IKEA, dwi'n gwneud dim byd o'i le."

****

Mae'r holl siop yn gweithredu polisi system one way. Mae'r saethau yn pwyntio'r ffordd, yr holl ffordd, o fan cychwyn y siop ger y lle yr arferai'r pensiliau fod cyn i mi eu stwffio i fy sannau i gyd, hyd at y til.

Mewn camgymeriad erchyll, 'dwi'n gadael fy nghlipfwrdd ar y gwely tu ôl i mi. Doedd dim dewis ond ufuddhau i'r saethau, a mynd yn fy mlaen - a gwneud cylch cyfan o amgylch y siop i nôl fy nghlipfwrdd. Dydi hyn ddim yn hawdd. Mae teulu blin yn gwthio troli tuag ataf ar ddeng milltir yr awr, yn lloerig gan nad oes pensiliau ar gael i gofnodi'r hyn maent eisiau ei brynu. Ymlaen â mi, am dair milltir gyfa - heb ddŵr, heb glipfwrdd, a phigau pensiliau yn torri i mewn i groen fy migyrnau. Dwi'n dechrau teimlo fel Iesu Grist - yn cario ffram bren ryw wely ar fy nhefn (am effaith) bron iawn yr holl ffordd at y til. Rhywle yng nghyffiniau'r scented candles dwi'n llewygu. Mae'r holl brofiad wedi bod yn ormod i mi, heb son am orfod delio a'r emosiwn ychwanegol o arogli Christmas Spice ym mis Awst.

***
Dwi'n cael gwared o'r ffram wely a'r pensiliau, ac yn cario ymlaen hefo fy mhererindod, ac o'r diwedd dwi'n cael fy aduno â'm clipfwrdd. Dwi'n chwilio am bensil i sgwennu arno, ond dwi wedi eu gadael i gyd ar lawr wrth ymyl y scented candles. Dwi'n rhoi give up ac yn dringo mewn i'r gwely ac yn mynd i gysgu.

***
Dwi'n amau fod y bosys yn dechrau amau fy mod yn amau eu bod yn amau fy mod wedi bod yn symud y pensiliau o'r bocsys dal pensiliau i fy sannau. Dwi'n gwneud ymdrech arbennig i fod ar fy ymddygiad gorau. Dwi'n archebu extra large portions o meatballs i ginio, ac fel show willing, dwi'n archebu portion maint arferol o meatballs i bwdin. Dwi'n gweiddi "MMM!" yn fodlon wrth ei bwyta. Dylai hyn eu plesio. Pan dwi'n siŵr nad oes neb yn edrych, dwi'n stwffio rhai o'r meatballs i fy sannau.

Rhywle rhwng adran y ceginnau a'r ystafell wely mae fy ngholuddion yn dechrau cwyno. "Ddyliai neb orfod delio â gymaint o gig a hynna ar un go!" meddai fy stumog. Dwi'n cytuno. Mae'r toiledau deg cam y tu ôl i mi - felly does dim byd amdani, ond rhedeg ymlaen - o amgylch y siop gan ddilyn y saethau. Dwi'n rhedeg nerth fy nhraed a pobman yn dechrau newid lliw, a mywyd yn teimlo fel ei fod ar fin dod i ben, dwi bron a ffrwydro. Dwi'n neidio am yr orsedd borslen, ac yn cael y rhyddhad mwyaf erioed. Dwi'n cau fy llygaid ac yn gweiddi, "Aaaaaaah, dyna welliant". Dwi'n ymbalfalu am y papur toiled, ond yn methu dod o hyd iddo. Dwi'n agor fy llygaid, a dyna lle mae'r teulu blin heb bensiliau yn syllu arnaf yn gegagored. Dwi'n eistedd ar doilet adran yr ystafell ymolchi hefo fy nhrowsus o amgylch fy ffêr.

O plis Mr Ikea, plîs ga i job?